AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Welcome to the Portmeirion blog, where you'll find information on news, events and updates from the village.

Dorlan Goch

2019-09-25

Dorlan Goch yw un o fythynnod hunan arlwy mwyaf Portmeirion, gyda lle i hyd at naw o bobl aros yno. Ond prin yw’r ymwelwyr sy’n gwybod rhyw lawer am yr eiddo helaeth hwn sy’n dyddio’n ôl i’r 1930au.

Dyluniodd Syr Clough Williams-Ellis, creawdwr Portmeirion, adeilad y tu allan i’r prif bentref fel lle i (Joseph) Peter Thorp fyw yn y 1930au. Adeiladwyd Cwt Gwyn, neu White Cottage fel y’i gelwid bryd hynny, ar gyfer Peter Thorp, ysgrifennwr a theipograffydd, a’i wraig Helen, a oedd yn arlunydd. Fe ddaethant yma i fyw yn 1937 a thrigasant yma tan y 1950au.

Y teulu Eastwood fu’n byw yn yr eiddo o’r 1960au hwyr tan yr 1970au. Roedd gan Bill a Dorothy Eastwood brydles ar yr eiddo ac roeddent yn byw yno gyda’u pedwar plentyn. Eu merch, Catherine, yw ffynhonnell llawer o’r hyn a wyddom am y bwthyn, ac mae gohebiaeth reolaidd rhyngddi â Rheolwr Casgliadau Portmeirion, Rachel Hunt. Yn ystod y cyfnod hwn y gwnaeth Bill Eastwood ddatblygu a dechrau’r Teithiau Chwareli yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd Clough yn gyfranddaliwr yn y ceudyllau llechi, ac mae rhai o’i ddisgynyddion yn aelodau o’r bwrdd ymddiriedolwyr hyd heddiw.

Yn dilyn tenantiaeth y teulu Eastwood, daeth Michael Trevor-Williams, a fu’n rheolwr Gwesty Portmeirion o ganol yr 1950au tan wedi marwolaeth Clough yn 1978, i fyw yn White Cottage gyda’i bartner Michael Lane. Ond erbyn diwedd yr 1970au, preswylfa ŵyr Clough, a Rheolwr Gyfarwyddwr presennol Portmeirion, Robin Llywelyn oedd White Cottage. Dyna pryd y dechreuodd Robin edrych ar enwau hanesyddol ar gyfer yr eiddo. Ysgrifenna Robin, “Roedd ffermdy o’r enw Dorlan Goch yn y cae yn ystod cyfnod y Mapiau Degwm gyda gardd yn agos i’r lan. Cafodd y tŷ ei alw’n Dorlan Goch ar ôl y cae y safai ynddo, sy’n llawn rhedyn ac felly’n goch yn yr hydref. Defnyddiwyd y cerrig o’r hen ffermdy hwn i adeiladu Cwt Gwyn, ac felly rydym wedi arddel yr enw Dorlan Goch byth ers hynny. 

Bu Robin a’i deulu yn byw yn y Dorlan Goch tan 2017 ac mae wedi bod ar gael fel bwthyn hunan arlwy ers 2018. Mae llawer o’i ystafelloedd yn cynnig golygfa wych dros aber afon Dwyryd. Mae nifer o weithiau celf gwreiddiol yn y bwthyn. Mae rhai o ddarluniau olew prin Susan Williams-Ellis o byllau creigiau i’w gweld yma. Susan a’i gŵr Euan sefydlodd fusnes Crochendy Portmeirion yn 1962. Roedd Euan yn beintiwr amatur hefyd, a gwaith o’i eiddo ef yw’r mwyafrif o’r darluniau gwreiddiol yn y bwthyn. 

ARCHEBWCH

Blaenorol

Nesaf

Yn ôl





Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more