Lonely Planet wedi cynnwys Portmeirion yn yr Ultimate United Kingdom Travelist
2019-08-13
Mae’r Ultimate United Kingdom Travelist gan Lonely Planet yn rhestru’r 500 profiad mwyaf hynod ym Mhrydain Fawr, Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel. Dyma’r cydymaith diffiniol ar gyfer teithio’r Deyrnas Unedig.
Lluniwyd y casgliad hwn o’r 500 o gyrchfannau ac atyniadau mwyaf anhepgor yn y Deyrnas Unedig gan gymuned fyd-eang o arbenigwyr teithio Lonely Planet. Mae Portmeirion yn falch o ymddangos yn y cyhoeddiad, sy’n cynnwys enwau mawrion fel XXX ynghyd â pherlau bychain i greu’r teithlyfr gorau ar gyfer ymwelwyr â’r Deyrnas Unedig. Mae’r rhestr ddiffiniol hon o gyrchfannau gorau’r Deyrnas Unedig yn llawn adolygiadau craff a ffotograffau i’ch ysbrydoli.
Cyrchfan wyliau yw pentref Portmeirion, wedi’i adeiladu ar benrhyn preifat ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri yng ngogledd Cymru. O ystyried mor fach yw’r pentref, mae yma wledd o bethau i’w gwneud a’u gweld – o draethau hynod a choedwigoedd egsotig, i lynnoedd cudd ac adeiladau ar steil Canoldirol. Mae ymwelwyr yn mwynhau teithiau cerdded, trên y Gwyllt a sioe glyweled sy’n egluro sut a pham crëwyd y pentref, yn ogystal ag arddangosfeydd tymhorol, a’r cwbl wedi’i gynnwys yn y pris mynediad.
Rhagor o wybodaeth ar gael yma: Lonely Planet reveals the 10 best travel experiences in the UK