AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Welcome to the Portmeirion blog, where you'll find information on news, events and updates from the village.

Portmeirion yn Torri Record

2019-03-04

Cynigiodd Bortmeirion fynediad am ddim i ymwelwyr ar Ddydd Gŵyl Dewi, a’r ymateb i hyn oedd y nifer fwyaf o ymwelwyr erioed. 


Dyma’r tro cyntaf i Bortmeirion gynnig mynediad am ddim i ymwelwyr ar Ddydd Gŵyl Dewi, a chroesawyd eu hewyllys da gan ymwelwyr. Bu’r diwrnod yn llwyddiant y tu hwnt i’r disgwyl, a chafodd y pentref ei nifer fwyaf o ymwelwyr dydd ar unrhyw ddiwrnod unigol yn hanes y cwmni. 


Cafodd ymwelwyr â’r gyrchfan ymwelwyr boblogaidd fwynhau teithiau tywys am ddim o gwmpas y pentref a sioe glyweled sy’n cynnwys llais y pensaer Clough Williams-Ellis yn egluro sut a pham yr adeiladodd y pentref. Roedd yr arddangosfa newydd, ‘Cromen y Canfod’ ar agor i ymwelwyr, ac roedd Rheolwr Casgliadau Portmeirion, Rachel Hunt, ar gael i siarad gydag ymwelwyr am yr arteffactau sydd ar ddangos. Roedd siopau a chaffis y safle’n brysur yn gwerthu anrhegion a swfenîrs Cymreig ac yn gweini Caws Pob, Lobsgóws a hufen iâ arbennig blas Cacen Gri a Bara Brith. 


Atyniad mwyaf poblogaidd y diwrnod oedd trên y Gwyllt, a oedd yn mynd ag ymwelwyr ar gylchdaith trwy goedwigoedd y Gwyllt. Roedd ymwelwyr hefyd yn gwerthfawrogi gwaith caled y tîm garddio, a fu’n brysur yn plannu dros 3,000 o fylbiau cennin Pedr a llawer o flodau eraill y gwanwyn ym mhob rhan o’r pentref ar gyfer yr achlysur.


“Roedd yn bleser gweld cymaint o bobl yn mwynhau’r pentref ac yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi,” meddai Rheolwr Marchnata Portmeirion, Jana Jones. “Mae’r ymateb gan ymwelwyr wedi bod yn ardderchog a gobeithiwn fod pawb wedi cael profiad braf yma. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol ac edrychwn ymlaen at gynnal y momentwm hwn weddill y flwyddyn.” 


Yr elusen gofrestredig Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis Foundation sy’n berchen ar Bortmeirion. Defnyddir y ffioedd mynediad arferol a godir gan Bortmeirion ar gyfer cadwraeth barhaus yr adeiladwaith hanesyddol a thirwedd wledig Portmeirion. Am ragor o wybodaeth am ymweld â Phortmeirion, yn cynnwys mynediad ac amseroedd agor, ewch i www.portmeirion.cymru 
 

Blaenorol

Nesaf

Yn ôl





Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more