Crochenwaith Portmeirion ar Ddangos yn un o Amgueddfeydd Mawr Llundain
2018-12-14
Mae arddangosfa crochenwaith newydd o’r enw ‘Portmeirion: Pottery Trendsetter’ wedi agor yn Amgueddfa Victoria & Albert, Llundain.
Mae’r arddangosfa, a agorodd ar Hydref 31, yn dangos siwrne Crochenwaith Portmeirion o’r siop anrhegion ym Mhentref Portmeirion i’r brand rhyngwladol adnabyddus a welwn heddiw.
Mae’r arddangosfa’n dilyn hynt bywyd Susan Williams-Ellis, sefydlydd Crochendy Portmeirion a merch Clough Williams-Ellis, y pensaer a adeiladodd Bentref Portmeirion. Yn 2018 roedd canmlwyddiant genedigaeth Susan Williams-Ellis ac i ddathlu hynny, mae’r Amgueddfa wedi casglu detholiad o’i dyluniadau, sy’n glasuron erbyn hyn.
Mae’r arddangosfa’n dangos rhai o batrymau enwocaf Susan, yn cynnwys Totem, Magic City a’r Botanic Garden bytholwyrdd.
Gellir gweld yr arddangosfa yn Amgueddfa V&A tan 28 Gorffennaf 2019