Gwyl Fwyd Portmeirion yn nol
2018-11-26
Bwydydd nefol, diodydd blasus ac anrhegion cain i gyd yn lleoliad hudol, Portmeirion - beth allai fod yn well? Bydd ein Gŵyl Fwyd a Chrefft flynyddol yn digwydd o 30 Tachwedd - 2 Rhagfyr 2018.
Yma ym Mhortmeirion, rydym ni'n falch o ddweud ein bod ni'n cefnogi busnesau lleol, felly pob Nadolig, fel ein rhodd i chi, rydym yn caniatáu i gasgliad o'r bwydydd, diodydd ac anrhegion gorau a gynhyrchir yn lleol gael eu dangos yn ein pentref.
Caiff mwy na 120 o stondinau crefftwyr eu cynnwys yn ein gwyl, gan arddangos y cynnyrch gorau o Gymru. Os nad ydy crwydro o gwmpas ein Pentref Eidalaidd yn ei harddwch gaeafol a trin eich hun i'ch hoff ddanteithion yn ddigon, rydym yn cynnig rhaglen lawn o adloniant gan gynnwys adloniant cerddorol ac arddangosiadau coginio tymhorol.
Bydd Siôn Corn yn ôl yn ei groto eleni, gyda'i coblynnod bach wrth law i helpu wneud y profiad Nadoligaidd hyd yn oed yn fwy hudol i'n hymwelwyr bach. Dim ond ho ho hop ar ein trên a pharatoi am daith arbennig i weld y dyn ei hun!
Rydym yn wirioneddol yn darparu ar gyfer pawb, yn enwedig y rhai sy'n chwilio am yr anrheg perffaith i rywun perffaith!
Mae tocynnau mynediad i'r Gŵyl Fwyd a Chrefft yn £ 7.00 y pen. Mae plant 12 oed ac iau yn rhad ac am ddim. Mae cost ychwanegol o £ 3.00 ar gyfer Groto Siôn Corn.