AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Welcome to the Portmeirion blog, where you'll find information on news, events and updates from the village.

Gŵyl Gerddi

2018-06-02

Bydd Gŵyl Gerddi Gogledd Cymru yn lansio’r penwythnos hwn, gydag wyth gardd yng Ngogledd Cymru’n cymryd rhan mewn cyfres arbennig o ddigwyddiadau dros y pythefnos.

Bydd Portmeirion yn lansio Llwybrau’r Gwyllt i ddathlu’r achlysur. Taith sy’n eich arwain i weld 80 o goed Portmeirion yw Llwybrau’r Gwyllt. Mae’r daith yn cynnwys 57 o Freninbrennau a gallwch ddewis o blith tri llwybr, o’r llwybr gwyrdd hawdd (1 awr), i’r llwybr coch heriol (3 awr). Mae teithlyfr arbennig wedi’i greu i’ch arwain rownd y llwybrau a gallwch ei brynu o’r Ganolfan Groeso ym Mhortmeirion. 

Mae cyfnod Gŵyl y Gerddi yn cyd-amseru i’r dim â blodeuo ein Cardiocrinum giganteum (Lilis Enfawr). Dim ond bob 4–7 blynedd mae’r planhigyn prin hwn o Ddyffryn Yunnan yn Nhibet yn blodeuo. Bydd y lilis yn blodeuo’n llawn (6–7 troedfedd) tua chanol i ddiwedd mis Mehefin a bydd y blodau’n para hyd at dair wythnos.

Mae Portmeirion yn gartref i un o’r casgliadau gorau o blanhigion Himalaiaidd, ac mae’n adnabyddus am ei gasgliad o rododendrons, yn cynnwys Rhododendron Goch Portmeirion, neu Frenin y Gwyllt. Hybrid a blannwyd ym Mhortmeirion yn 1938 yw’r rhododendron fflamgoch, hwyr-flodeuol hon. 

Byddwn hefyd yn rhoi cyfle arbennig i ymwelwyr brynu rhai o’n planhigion prin ac unigryw yn ystod Gŵyl y Gerddi. Bydd gennym ddetholiad o blanhigion yn cynnwys rhododendrons, asaleas, a phlanhigion eraill sy’n gysylltiedig â Phortmeirion. Bydd y planhigion ar gael i’w prynu o ddydd Llun 4 Mehefin.

 

 

Blaenorol

Nesaf

Yn ôl





Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more