Lili Enfawr yn Blodeuo
2018-06-03
Pleser yw cyhoeddi bod ein Cardiocrinum Giganteum (Lilis Enfawr) yn ei blodau. Dim ond bob 4–7 blynedd mae’r planhigyn prin hwn o Ddyffryn Yunnan, Tibet, yn blodeuo. Mae’n debyg y byddai unrhyw arddwr yn cytuno bod tyfu’r blodyn rhyfeddol hwn yn werth yr holl aros, gan ei fod yn cyrraedd dros 7 troedfedd o daldra, a chanddo ddail siâp calon a blodau gwyn hufennog fel trympedi a'r rheiny'n llawn aroglau fanila.
Byddant yn eu blodau (6–7 troedfedd) yng nghanol mis Mehefin, sy’n ffitio’n daclus gyda chyfnod Gŵyl Gerddi Gogledd Cymru a gynhelir 2–17 o Fehefin. Bydd y Lilis Enfawr yn blodeuo am hyd at dair wythnos.
Mae Portmeirion yn gartref i un o’r casgliadau gorau o blanhigion Himalaiaidd, ac mae’n adnabyddus am ei gasgliad o rododendrons, yn cynnwys Rhododendron Goch Portmeirion, neu Frenin y Gwyllt. Hybrid a blannwyd ym Mhortmeirion yn 1938 yw’r rhododendron fflamgoch, hwyr-flodeuol hon.
Ond dydi’r Lilis Enfawr ddim hanner mor adnabyddus i’r miloedd o ymwelwyr sy’n dod i Bortmeirion bob blwyddyn. Y lili Himalaiaidd enfawr ysblennydd yw’r rhywogaeth fwyaf yn nheulu’r lili. Yn hanu o’r mynyddoedd Himalaia yn India, Tibet, Nepal, Bhutan, Pacistan, Tsieina a Myanmar (Byrma),dechreuwyd cynhyrchu’r lili’n fasnachol (fel Lilium Giganteum) ym Mhrydain yn yr 1850au. Plannwyd y Cardiocrinum Giganteum gan y garddwyr ym Mhortmeirion yn 2011.