Llwybr Coed Newydd
2018-06-05
Bydd Portmeirion yn lansio Llwybrau’r Gwyllt i ddathlu’r achlysur. Taith sy’n eich arwain i weld 80 o goed Portmeirion yw Llwybrau’r Gwyllt. Mae’r daith yn cynnwys 57 o Freninbrennau a gallwch ddewis o blith tri llwybr, o’r llwybr gwyrdd hawdd (1 awr), i’r llwybr coch heriol (3 awr).
Mae Portmeirion wedi’i amgylchynu gan 70 erw o goedlannau egsotig gyda 19 milltir o lwybrau sy’n croesi trwy goedwigoedd, llecynnau cudd a childraethau arfordirol. Mae coed brodorol yn sefyll ar hyd y rhodfa tuag at Bentref Portmeirion a Chastell Deudraeth. Mae’r coed egsotig ym Mhortmeirion yn cynnwys Ffawydden Ddeheuol Chile, Marchgastan Indiaidd, Cochwydden Fawr Califfornia a rhes o goed Pinwydd Monterey ifanc. Mae ein coed addurnol yn cynnwys Selcofa Siapan, y coed ceirios sy’n blodeuo a Derwen Goch Americanaidd.
Rydym wedi creu teithlyfr arbennig ar gyfer Lwybrau’r Gwyllt, sydd ar gael i’w brynu o’r Ganolfan Groeso ym Mhortmeirion.