AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Welcome to the Portmeirion blog, where you'll find information on news, events and updates from the village.

Pasg ym mhentref Portmeirion

2019-04-09

Mae Gwyliau’r Pasg bron â chyrraedd ac mae gennym lu o bethau cyffrous ar y gweill ym mhentref Portmeirion. Dewch i fwynhau gwledd i’r synhwyrau’r Pasg hwn gydag amrywiaeth o weithgareddau tymhorol arbennig i ddiddanu’r teulu oll. 

Mae adeiladau lliwgar a golygfeydd trawiadol pentref Portmeirion yn bleser i edrych arnynt. Bydd teithiau tywys ar ddwy droed a thripiau ar drên y gwyllt ar gael am ddim yn ddyddiol dros wyliau’r Pasg. Ar ddydd Sul y Pasg, bydd cyfle i’r plant gymryd rhan yn ein Helfa Basg. Ewch i chwilota o gwmpas y pentref am docynnau wedi’u cuddio i ennill amrywiaeth o wobrau. 

Ymysg blodau a lliwiau’r gwanwyn, dewch i wrando synau natur yn ein coedwig 70 erw. Dewch i ganfod yr adar, y gloÿnnod a’r gwenyn y mae Portmeirion yn gartref iddynt gyda’r dewis i grwydro dros 20 milltir o lwybrau natur arfordirol a choediog. 

Dewch i gael eich ysbrydoli gan arddangosfa Cromen y Canfod, sy’n cynnwys crochenwaith a chreiriau sy’n gysylltiedig â phentref Portmeirion i helpu ymwelwyr i ennyn dealltwriaeth bellach o’r safle a’i ddatblygiad. 

Yn olaf, beth am fwynhau cinio Sul blasus neu de prynhawn moethus yng Ngwesty Portmeirion? Argymhellir i chi gadw bwrdd o flaen llaw. 

Blaenorol

Nesaf

Yn ôl





Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more