Bwthyn Deduraeth
2019-07-18
Ydych chi’n meddwl am eich gwyliau haf? Nawr yw’r amser delfrydol i archebu eich gwyliau hunan-arlwy ym mhentref Portmeirion.
Mae’r hen ffermdy Bwthyn Deudraeth o'r 19eg ganrif yng nghalon ystâd fawr Portmeirion yn le delfrydol i ddianc oddi wrth fwrlwm bywyd.
Bwthyn Deudraeth yw un o ffefrynnau wyresau Clough Williams-Ellis, sydd yn aml yn aros yma pan fyddant yn ymweld â phentref Portmeirion.
Mae tirwedd naturiol o'r amgylch, sydd yn berffaith ar gyfer cerdded, beicio a hyd yn oed marchogaeth. Ar ddiwedd dydd, cewch swatio o flaen y tan ar yr aelwyd hynafol.
Mae gan Portmeirion 12 o fythynnod hunan-arlwy o wahanol feintiau. Ceir ynddynt geginau wedi eu cyflenwi ag offer addas ac mae ymhob bwthyn deledu, ffôn a Wi-Fi.
Cynhwysir gwresogi, tyweli a chynfasau ym mhris y bwthyn a’r gwelyau wedi eu cymenu cyn ichi gyrraedd. Yn anffodus, ni chaniateir cŵn (heblaw cŵn cymorth) yn y Bythynnod Hunan-Arlwy.
Caiff ein gwesteion fynediad am ddim i bentref Portmeirion a defnyddio'r pwll nofio awyr agored. Gellir cynnig cludiant o'r gorsafoedd trên a bysiau lleol os trefnir ymlaen llaw. Mae llefydd parcio wedi eu clystnodi ar gyfer pob bwthyn.