Penwythnos Gŵyl Dewi
2019-02-19
Bydd Portmeirion yn croesawu’r cyhoedd i’r pentref am ddim ddydd Gwener Mawrth y 1af 2109, fel rhan o benwythnos o ddathlu Nawdd Sant Cymru.
Mae’r atyniad ymwelwyr poblogaidd wedi trefnu penwythnos i ddathlu treftadaeth a diwylliant Cymru. Caiff ymwelwyr fwynhau teithiau tywys am ddim o amgylch y pentref a bydd Trên y Gwyllt yn rhedeg, yn ogystal â sioe glyweled sy’n cynnwys llais y pensaer Clough Williams-Ellis yn egluro sut a pham yr adeiladodd y pentref. Mae ein garddwyr wedi plannu dros 3,000 o gennin Pedr ar gyfer yr achlysur!
Bydd rhagolwg ar arddangosfa newydd ar gyfer 2019, ‘Cromen y Canfod, ar gael i ymwelwyr. Bydd y rhagolwg hwn yn cynnwys crochenwaith ac arteffactau sy’n gysylltiedig â Phortmeirion a byddant yn gyfle i ymwelwyr ennyn gwell dealltwriaeth o’r safle a sut y datblygodd.
Bydd y dathliadau’n parhau trwy gydol y penwythnos gyda rhaglen gyffrous o adloniant Cymreig a bwydlenni ar thema Cymru ddydd Sadwrn yr 2il a dydd Sul y 3ydd o Fawrth. Gallech fwynhau te prynhawn yng Ngwesty Portmeirion, neu beth am gacen gri ffres neu gaws pob yn un o gaffis y pentref? Bydd Caffi’r Angel hyd yn oed yn gwerthu hufen iâ Bara Brith!