AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Welcome to the Portmeirion blog, where you'll find information on news, events and updates from the village.

Coctel newydd arbennig

2018-06-01

Cyflwynir jin Clogau Reserve gan Forager’s ar ddiwrnod y Briodas Frenhinol, a dim ond 440 o boteli sy’n cael eu cynhyrchu. Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn un o’r ychydig lefydd sy’n cael dathlu’r achlysur ynghyd â’r cwpl brenhinol. I ddathlu’r jin Cymreig newydd hwn, rydym wedi creu coctel o’r newydd – Y Fôr-forwyn Euraidd.

Mae jin Forager’s o’r Snowdonia Distillery a Clogau Gold wedi dod ynghyd i greu gwirod arbennig iawn – jin un gasgen Clogau Gold, ac mae Gwesty Portmeirion wedi llwyddo i gael gafael ar ddwy botel ohono, yn cynnwys y drydedd botel i gael ei chynhyrchu (bydd Potel #1 yn cael ei rhoi’n anrheg i’r cwpl brenhinol, a Forager’s sy’n cadw Potel #2). 

Bydd 440 potel o jin Forager’s Clogau Reserve yn cael ei gynhyrchu yn 2018, a dim ond 250 o’r rheiny fydd ar gael i’r cyhoedd. Lansiwyd y jin i ddathlu’r Briodas Frenhinol a bydd ar gael o far Gwesty Portmeirion o ddydd Sadwrn 19eg o Fai.

Bu tîm coctels Portmeirion yn Academi Coctels Jin Forager’s yn ddiweddar, i ddysgu mwy am y gwirod unigryw. “Roedd yr Academi Coctels yn brofiad anhygoel ac yn agoriad llygad i’n staff bar! Mi wnaethon ni gymysgu bob math o goctels cyn penderfynu ar y Fôr-forwyn Euraidd. Dydi’r coctel arbennig hwn ddim ar gael yn unman ond Gwesty Portmeirion.”

Aeth chwe aelod o staff y bar i’r Academi Coctels, lle cawsant ddysgu technegau newydd, fel defnyddio gwynnwy mewn coctels i gael pen ewynnog. Cawsant ddysgu hefyd sut i gymysgu ambell i goctel newydd i ychwanegu at eu sgiliau yn cynnwys y Wraig Wen, sef jin, triple sec, sudd lemon ffres, surop siwgr a gwynnwy, wedi’i ysgwyd dros rew a’i hidlo. 

Mae’r Fôr-forwyn Euraidd yn cynnwys jin Clogau Reserve, Piwrî litshi, sudd leim ffres, syrup de gomme, gwynnwy a siampaen Portmeirion.

Nesaf

Yn ôl





Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more