Darganfod Portmeirion
2019-04-10
Eleni yw Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru ac i ddathlu, rydym yn lansio cystadleuaeth #DarganfodPortmeirion, a’r wobr yw gwyliau hunan-arlwy 2 noson i 4 o bobl ym mhentref Portmeirion!
Gyda threftadaeth bensaernïol gyfoethog, 70 erw o goetir isdrofannol, pedair milltir o arfordir preifat a hanes sy’n rhychwantu dros naw degawd, mae digon i’w ddarganfod ym mhentref Portmeirion!
Hoffem glywed gennych chi! Am gyfle i ennill, rhannwch eich lluniau, straeon neu atgofion am bentref Portmeirion ar Facebook, Instagram neu Twitter gan ddefnyddio #DarganfodPortmeirion.
Mae’r pentref Eidalaidd hwn yn rhith, yn “gyferbyniad chwareus”, wedi’i greu i hudo ac i ysbrydoli. Mae nodweddion cudd, lledrith i’r llygaid, a straeon swynol i’w canfod rownd pob cornel.
Tybed beth wnewch chi ei ddarganfod?
Derbynnir cynigion o 19 Ebrill 2019 hyd 31 Awst 2019 a dewisir enillydd ddydd Gwener 6 Medi. Nid oes angen talu na phrynu i gymryd rhan. Nid yw'r wobr hon yn drosglwyddadwy ac nid yw’n ddilys ar y cyd ag unrhyw gynnig arall. Ni roddir ad-daliadau, ac ni ellir cyfnewid y wobr am arian. Rhaid derbyn pob cynnig erbyn y dyddiad cau a nodwyd. Rhaid casglu’r holl wobrau o fewn 12 mis o’r dyddiad ennill a rhaid eu cymryd y tu allan i wyliau ysgol a gwyliau’r banc, a bwrw bod lle ar gael. Ar ôl hynny, ystyrir gwobrau nas hawliwyd yn annilys a di-rym.
Pan foenillydd yn dewis peidio derbyn gwobr, maent yn ildio unrhyw a phob hawl i’r wobr honno, ac ymdrinnir â hynny ar ddisgresiwn llwyr Portmeirion Cyf. Dewisir enillwyr ar hap.
Ogymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, rydych yn cytuno i gadw at y Telerau ac Amodau hyn. Rydych yn cytuno i weithredu a chydymffurfio â phob cais rhesymol gan Portmeirion Cyf a’i asiantau a’i gyflogeion (yn arbennig o ran iechyd a diogelwch) mewn cysylltiad â’r gystadleuaeth a’i ddarllediad ac rydych yn cydnabod bod gan Portmeirion Cyf yr hawl i gyhoeddi, darlledu neu fel arall i ddatgelu enw, cymeriad, delwedd, a datganiadau’r cystadleuydd mewn gweithgareddau hysbysebu neu hyrwyddo sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
Nid yw Portmeirion Cyfyn atebol mewn unrhyw ffordd am unrhyw gostau, treuliau, colledion, atebolrwydd neu niwed sy’n codi o neu sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth mewn unrhyw ffordd heblaw am y costau a threuliau hynny a ddarperir ar eu cyfer yn benodol yn y gystadleuaeth.
Ystyrir bodrhoi cynnig ar a chymryd rhan mewn unrhyw gystadleuaeth yn golygu eich bod wedi derbyn y Telerau hyn yn ddiamod.