Dawnswyr Byrma yn Dychwelyd i Bortmeirion
2018-07-19
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Dawnswyr Byrma wedi dychwelyd i Bortmeirion.
Pâr o gerfluniau yw Dawnswyr Byrma, wedi’u cerfio o bren lacr a’u heuro â haenen aur. Mae manylion coegwych eu gwisgoedd yn dangos eu perthynas â chelf llysoedd Mandalay, Byrma, yn y 19eg ganrif. Ond sut daeth y ddau gerflun hynod i fyw mewn pentref Eidalaidd ar arfordir Eryri?
Mae amgylchiadau dyfodiad y cerfluniau i Bortmeirion yn dipyn o ddirgelwch. Mae lluniau sy’n dyddio’n ôl i’r 1950au hwyr yn dangos y cerfluniau yn sefyll dros y Pwll Pysgod, cyn cael eu symud i Sgwâr y Pentref yn gynnar yn y 1960au. Mae hyn wedi arwain rhai o haneswyr Portmeirion i dybio y gallai’r cerfluniau fod wedi cyrraedd fel rhan o ffilmio The Inn of the Sixth Happiness yma yn 1958.
Mae ambell i theori arall, yn cynnwys y syniad bod Syr Clough Williams-Ellis, y pensaer gweledigaethol a adeiladodd Bortmeirion, wedi’u cael o iard adfer yn Llundain. Cyfeiriai Williams-Ellis at y safle fel “hafan i hen adfeilion”, ac mae ei steil eclectig wedi arwain at gasgliad pensaernïol eang y pentref. Pethau egsotig oedd yn ysbrydoli ei ferch, Susan Williams-Ellis, sylfaenydd Crochendy Portmeirion, ac roedd celf ddwyreiniol yn ei swyno, ac mae hyn yn amlwg yn rhai o’i sgetshis. Mae rhai arbenigwyr ar Bortmeirion yn credu efallai mai hi yw’r rheswm y daethpwyd â’r cerfluniau yma.
Beth bynnag ddaeth â’r cerfluniau i Bortmeirion, maent yn nodwedd boblogaidd o Sgwâr y Pentref. Tynnwyd y cerfluniau oddi ar eu colofnau carreg yn 2017, gan fod eu cyflwr wedi dirywio. Nigel Simmons, cerflunydd Portmeirion, gafodd y dasg enfawr o adfywio’r ddau gerflun.
Dechreuodd Simmons ar y gwaith ym mis Chwefror 2018 trwy lanhau’r cerfluniau gwreiddiol a llenwi a thrwsio darnau wedi malu gyda chwyr cyn gwneud cast o bob rhan o’r ddau gerflun mewn rwber silicon. Defnyddiodd Nigel gyfres o ffotograffau o’r cerfluniau gwreiddiol i dynnu rhai o’r elfennau coll ynghyd, yn cynnwys penwisg, dwylo, a hyd yn oed cefn pen un o’r dawnswyr.
Nesaf, rhoddodd Simmons haen o blaster Paris ar bob darn silicon cyn ei gastio mewn ffibr gwydr. Gosodwyd pob darn ffibr gwydr at ei gilydd cyn ei orchuddio mewn haenen aur. Cymerodd y prosiect 6 mis i’w gwblhau.
Bydd y cerfluniau gwreiddiol cael eu storio a bydd Rheolwr Casgliadau Portmeirion yn gofalu amdanynt. Bydd y cerfluniau newydd yn cael eu gosod yng nghanol y pentref.