Seinwedd Newydd ym Mhortmeirion
2018-08-09
Mae seinwedd newydd gan Martyn Ware, un o sylfaenwyr The Human League a Heaven 17, wedi’i osod ym Mhortmeirion.
Caiff y seinwedd ddiweddaraf i gael ei gosod ym Mhortmeirion, ‘Beth Ddyfyd y Môr?’, ei lansio ym Mhortmeirion i ddathlu Blwyddyn y Môr Croeso Cymru.
Wedi’i gomisiynu’n wreiddiol gan Sound UK a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae ‘Beth Ddyfyd y Môr?’ wedi bod yn teithio o gwmpas y Deyrnas Unedig am y tair blynedd ddiwethaf yn casglu atgofion glan môr gan y cyhoedd. Mae’r profiad rhyngweithiol hwn yn caniatáu i ymwelwyr gyfrannu eu llais eu hunain i’r seinwedd trwy recordio eu hunain yn hel atgofion am y môr. “Fel hyn, mae’r seinwedd yn fyw ac mae’n newid ac yn tyfu”, meddai Ware. “Mae’n cynrychioli’r bobl sy’n ymweld â Phortmeirion ac mae’n ffordd newydd i ymwelwyr gysylltu â’r fan arbennig hon.”
Dyma’r drydedd seinwedd i Martyn ei gosod ar y cyd â Phortmeirion. Mae pob un yn gyfle i ymwelwyr ymgolli yn y profiad, gan gyfuno recordiau sain llais a cherddoriaeth berthnasol i gyfleu ystyr, teimlad, ac atgof, ynghyd â gwybodaeth, i ymwelwyr. “Mae rhywbeth theatraidd iawn am Bortmeirion”, meddai Ware. “Mae’r seinweddau hyn y gallwch ymgolli ynddynt yn gweddu i hud Portmeirion”.
Gosodwyd y seinwedd gyntaf ym Mhortmeirion yn 2014, fel nodwedd dros dro yn ystod Gŵyl Rhif 6. Fe’i gosod o dan Dŷ Pont ac roedd yn cynnwys deialog a cherddoriaeth o gyfres deledu The Prisoner. Esblygodd seinwedd y Prisoner i fod yn nodwedd barhaol o’r enw ‘Geiriau dan y Bont’, yn cynnwys Syr Clough Williams-Ellis yn siarad am ei weledigaeth a sut y creodd Bentref Portmeirion.
Datblygwyd ail seinwedd Portmeirion ar gyfer Neuadd Ercwlff. Mae ‘Hafan Hen Adfeilion’ yn dweud hanes Syr Williams-Ellis yn dod ag amrywiol adeiladau i Bortmeirion o bob cwr o’r wlad a sut aeth ati i ddefnyddio hen nodweddion pensaernïol i wneud i’r pentref edrych yn hŷn nag ydyw mewn gwirionedd.
Dyluniwyd seinweddau Portmeirion fel profiad i ymgolli ynddo, rhywbeth y byddai ymwelwyr yn dod ar ei draws ar hap, bron. Maent wedi’u dylunio i synnu a hudo ymwelwyr yn ogystal â’u helpu i ddysgu mwy am y pentref a thyrchu ymhellach i’w hanes rhyfeddol.