Siop Fawr Portmeirion yn agor ei drysau
2019-04-11
Ailagorodd y Siop Fawr hanesyddol ar 8 Ebrill 2019, dan ofal Portmeirion. Mae ynddi dri llawr o nwyddau i’r cartref a chaffi. Tybir mai’r siop hon, Kerfoots gynt, yw’r siop adrannol hynaf yng Ngogledd Cymru, ac mae wedi bod wrth galon Stryd Fawr Porthmadog ers 1874.
Mae’n ganolbwynt newydd i siopau Portmeirion, yn gwerthu nwyddau i’r cartref gan frandiau mawr yn cynnwys Sophie Conran, Emma Bridgewater a Smeg yn ogystal â dodrefn meddal Melin Tregwynt. Mae crochenwaith Portmeirion hefyd ar gael yno, yn cynnwys cyfres newydd Botanic Garden a’r gyfres newydd Atrium.
Mae tu mewn newydd y siop yn olau ac yn braf, a’r grisiau troellog rhestredig yw’r brif nodwedd ar lawr y siop o hyd. Mae’r caffi ar y llawr cyntaf, Caffi Siop Fawr, yn gweini bwydlen amrywiol yn cynnwys dewis o salad a bwyd môr, yn ogystal â the prynhawn, cacennau cartref a hufen iâ Portmeirion.
Mae Cyfarwyddwyr Portmeirion yn falch o roi bywyd newydd i’r adeilad eiconig hwn yng nghanol tref Porthmadog, gan adfer ei enw hanesyddol ‘Siop Fawr’, ac mae’r fenter wedi creu 24 o swyddi newydd rhan amser a llawn amser. “Mae agor Siop Fawr Portmeirion yn gyfnod cyffrous ac edrychwn ymlaen at groesawu cwsmeriaid am flynyddoedd i ddod.” Meddai Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion.
Trydarodd Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionydd, Falch fod 'Siop Fawr' (Kerfoots) #Porthmadog wedi agor ei drysau ar ei newydd wedd heddiw dan ofal @Portmeirion. Dyma adeilad pwysig yn hanes tref Porthmadog. Falch ei fod wedi ei ddiogelu ynghyd a swyddi lleol.”
Mae Siop Fawr Portmeirion a Caffi Siop Fawr ar agor yn ddyddiol o 9.30 – 5.30.