AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Welcome to the Portmeirion blog, where you'll find information on news, events and updates from the village.

Llwybr Coed Newydd

2018-06-05

Bydd Portmeirion yn lansio Llwybrau’r Gwyllt i ddathlu’r achlysur. Taith sy’n eich arwain i weld 80 o goed Portmeirion yw Llwybrau’r Gwyllt. Mae’r daith yn cynnwys 57 o Freninbrennau a gallwch ddewis o blith tri llwybr, o’r llwybr gwyrdd hawdd (1 awr), i’r llwybr coch heriol (3 awr).

Mae Portmeirion wedi’i amgylchynu gan 70 erw o goedlannau egsotig gyda 19 milltir o lwybrau sy’n croesi trwy goedwigoedd, llecynnau cudd a childraethau arfordirol. Mae coed brodorol yn sefyll ar hyd y rhodfa tuag at Bentref Portmeirion a Chastell Deudraeth. Mae’r coed egsotig ym Mhortmeirion yn cynnwys Ffawydden Ddeheuol Chile, Marchgastan Indiaidd, Cochwydden Fawr Califfornia a rhes o goed Pinwydd Monterey ifanc. Mae ein coed addurnol yn cynnwys Selcofa Siapan, y coed ceirios sy’n blodeuo a Derwen Goch Americanaidd. 

Rydym wedi creu teithlyfr arbennig ar gyfer Lwybrau’r Gwyllt, sydd ar gael i’w brynu o’r Ganolfan Groeso ym Mhortmeirion.

Blaenorol

Nesaf

Yn ôl





Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more