Blas yr Eidal mewn nes ardal
Bydd Gwesty Portmeirion a Chastell Deudraeth ar gau tan 5ed o Fawrth 2021
Os oes gennych archeb lety o fewn y cyfnod cau hwn byddwn yn cysylltu gyda chi i naill ai ail-drefnu dyddiad addas i chi neu ganslo’r archeb os yn well gennych.
.
Profwch hud a lledrith noson ym Mhortmeirion. Gwyliwch y wawr yn torri dros Foel Ysgyfarnogod; gwyliwch y llanw yn llenwi'r Traeth Bach. Mae’r pentref mewn lle delfrydol ar ochr ddeheuol penrhyn y ddau draeth (a roes ei enw i bentref Penrhyndeudraeth gerllaw).
Sylwch mai deg tan chwech yw oriau agor pwll nofio awyr agored y gwesty, saith diwrnod yr wythnos tan 28ain o Fedi. Neilltuir defnydd y pwll i westeion preswyl y Gwesty, Castell Deudraeth a'r bythynnon hunan-arlwyo.
Gwarantir y pris gorau am lety os archebwch arlein ar y wefan hon. Mae ein prisiau llety yn cynnwys TAW o 5% (tan 12fed Ionawr 2021, ar ôl hynny fydd TAW yn codi i 20%).