Croeso'n ôl i bentre Portmeirion
2020-08-03

MAE PORTMEIRION AR AGOR DDYDD A NOS
3ydd Awst 2020.
Croeso yn ôl atom. Rydym wedi cydymffurfio â chanllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru i sicrhau amgylchedd diogel.
Mae Portmeirion wedi cydymffurfio â chanllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd asesiadau risg a hyfforddiant staff a gwneir gwiriadau tymheredd ar ein staff bob dydd.
Rydym wedi ail-drefnu mannau cyhoeddus i alluogi cymdeithasu diogel, gyda arwyddion, sgriniau rhwng byrddau ac ati. Mae niwlwyr gwrth-firaol ar waith i buro’r ystafelloedd cyhoeddus. Ceir safleoedd glanhau dwylo ledled y pentref.
Mae ein tîm cadw tŷ wedi rhoi glanhad gwrth-facteriol i bob pwynt cyswllt ac yn ogystal mae’r llety yn cael ei chwistrellu â niwl diheintio i sicrhau nad oes arlliw o facteria na firysau. Mae’n ddrwg gennym fod hyn yn golygu gohirio cofrestru o 3 tan 5 o’r gloch.
Mae sawl bwyty a chaffi ar y safle gan gynnwys Neuadd y Dref sy'n cynnig prydau parod poeth ac oer, siop goffi Caffi'r Sgwâr gyda diodydd a byrbrydau poeth ac oer i fynd, Caffi Hufen Iâ yr Angel, Teras y Gwesty (agored Llun i Sad, ar dywydd braf, dim byrddau cadw) a bwyty Castell Deudraeth ar y dreif sy’n cynnig cinio dau gwrs am £20 a hwnnw’n cynnwys mynediad ar ôl cinio i bentref Portmeirion (rhaid cadw bwrdd ymlaen llaw ar 01766 772400).
O ddydd Llun i ddydd Sadwrn bydd Gwesty Portmeirion yn gweini te prynhawn traddodiadol yn y lolfeydd rhwng 2.00yh a 4.00yh gyda dewis o fathau o de ynghyd â chacennau, brechdanau, bara brith a sgons. Os archebwch de pnawn ymlaen llaw (01766 772440) cewch fynediad am ddim i bentref Portmeirion. Gallwch osgoi sefyll mewn rhes dim ond ichi roi’ch enw a'ch cyfeirnod archebu i aelod o staff y tollborth ac mi gewch fynediad am ddim. Mwynhewch wydraid o Prosecco neu Siampên gyda’ch te prynhawn i’w wneud yn achlysur arbennig.
Gweler y fwydlen te prynhawn yma.
RHANNWCH YR HUD GYDA THOCYN RHODD
Rhowch un Docyn Rhodd Portmeirion i ffrindiau neu deulu i rannu'r hud. Mae yma nifer o fathau gwahanol gan gynnwys llety, te prynhawn, cinio a swper.
Gweler rhestr o'r Tocynnau Rhodd yma