AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Pecyn Asalea

Pecyn Asalea

Pecyn canol wythnos hyd at 60 o westeion

Pecyn priodas ganol wythnos ydi'r Pecyn Asalea, ar gael o ddydd Llun i ddydd Iau, ac mae'n eistedd hyd at 100 o westeion ar gyfer y seremoni sifil yn y Neuadd Ercwlff.

Bydd y pecyn hwn hefyd yn cynnwys derbyniad diodydd gyda danteithion yng Ngwesty Portmeirion, y Wledd Briodas (tri chwrs gyda choffi a melysfwyd), detholiad o winoedd o'ch dewis o blith rhai label Portmeiron, dŵr llonydd a byrlymus, gwydriad o win byrlymus ar gyfer y llwnc-destun (Cava neu Prosecco, Siampaen ar gael am daliad ychwanegol), gorchuddion cadeiriau yn y Neuadd, bwffe gyda'r nos, llofft pâr priod o gostyngiad o 15% oddi ar bris llety gwely a brecwast i hyd at 12 ystafell am un noson yn unig.

Y Diwrnod Mawr

  • 11:00 - 12:00 Seremoni Sifil
  • 12:30 - 14:00 Tynnu Lluniau a Derbyniad Diodydd
  • 14:00 - 17:00 Y Wledd Briodas*
  • 17:00 - 00:00 Parti Noson
  • 20:00 - 21:30 Bwffe Nos
  • 00:00 - 00:30 Cerbydau

*Gofynnwn yn glen i'r holl westeion fod wrth y byrddau ar gyfer y wledd briodas erbyn 2 o'r gloch y pnawn.

 

Prisiau'r Pecyn Asalea

  • Ebrill - Medi: £10,495.00 (60 o westeion)
  • Hydref - Mawrth: £9,495.00 (60 o westeion)
  • Uchafswm o westeion ar gyfer y Seremoni Sifil: 100
  • Uchafswm o westeion ar gyfer Y Wledd Briodas: 120
  • Gwesteion Ychwanegol: £135.00
  • Plant 4-12 oed: £65.00
  • Plant o dan 4 oed: Am Ddim
  • Gwesteion nos yn unig: £35.00

Bwydlenni sampl Priodas

Y Wledd Briodas

Bwffe Nos



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more