Gyrfau Portmeirion
Mae nifer o swyddi ar gael ym Mhentref Mhortmeirion, swyddi llawn amser, rhan amser, tymhorol ac achlysurol, ymunwch â ni! Rydym angen y canlynol –
Mae Siopau Portmeirion yn gwahodd ceisiadau ar gyfer swydd Cynorthwyydd Siop a Chaffi i weithio yn unrhyw un o’n siopau a chaffis ym Mhentref Portmeirion a Porthmadog. Swydd dymhorol, yn gweithio hyd at 35 awr yr wythnos rhwng 9:30yb - 5:30yh, unrhyw 5 diwrnod allan o 7. Nid yw profiad blaenorol yn angenrheidiol a rhoddir hyfforddiant llawn, ond mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu drosodd oherwydd gwerthiant alcohol. Cyflog: hyd at £12.21 yr awr
Rydym nawr angen Porthor Digwyddiadau tymhorol i gynorthwyo gyda’n timau digwyddiadau a phorthorion.
Mae'r dyletswyddau'n cynnwys:
Gosod i fyny ar gyfer digwyddiadau fel priodasau, partïon, cynadleddau a chyfarfodydd
Gosod ystafell ar gyfer digwyddiadau gyda’r nos yn dilyn seremonïau priodas
Clirio’r ystafell yn barod i’r glanhawr ddod i mewn ar ddiwedd y digwyddiad
Yn gyfrifol am ddarparu a gweini lluniaeth yn ystod cynadleddau
I helpu ar y bar os oes angen a gweithio gyda’r adran borthorion ar ddyddiau lle nad oes ddigwyddiadau
Mae hon yn swydd dymhorol a ddaw i ben diwedd mis Hydref 2025
Oriau: hyd at 35 awr yr wythnos yn gweithio unrhyw 5 diwrnod allan o 7.
Cyflog: £12.21 yr awr
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy Gymraeg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma yn ogystal â thrwydded yrru llawn.
AM WYBODAETH BELLACH CYSYLLTWCH Â'R ADRAN ADNODDAU DYNOL FEL ISOD
Cysylltwch gyda Ellen neu Nia o’r Adran Adnoddau Dynol ar 01766 772369 am ragor o fanylion neu ebostiwch eich CV draw i swyddi@portmeirion.cymru