Croeso i Bortmeirion
Mae yma westai, bythynnod, siopau, bwytai a chaffis, coed toreithiog y Gwyllt ac eangderau'r Traeth Bach
Adeilad Fictorianaidd Graddfa II yw Gwesty Portmeirion a addaswyd gan Clough Williams-Ellis i'w agor yn 1925 ac a adferwyd ym 1988. Castell ffug Fictoraidd yw Castell Deudraeth a drawsnewidwyd yn westy cyfoes yn 2001. Ym mhentref Portmeiron ceir 32 o ystafelloedd a switiau moethus, pob un gyda golygfeydd o'r pentref neu'r traeth. Am arhosiad o dair noson neu fwy gallwch logi un o'n 13 o fythynnod hunan-arlwy addas ar gyfer teuluoedd neu grwpiau mawr neu fach.
Cewch fwyd o safon ym mwyty 'art deco' arobryn Gwesty Portmeirion gyda seigiau clasurol wedi eu seilio ar gynnyrch lleol. Mae Castell Deudraeth yn fwyty anffurfiol gyda bwyty cyfoes a'r fwydlen eto'n seiliedig ar gynnyrch lleol. Ar gyfer cinio awyr agored neu fyrbryd, mae gan Bortmeirion amryw o gaffis a siopau coffi ar y safle gyda dewisiadau o bitsa cartref i hufen iâ yn yr arddull Eidalaidd.