Diwyg Cyfoes mewn Castell Gothig
Castell ffug o oes Fictoria yw Castell Deudraeth sydd ag 11 o lofftydd cyfoes a chyfforddus a’r mwyafrif gyda mynediad lifft. Mae gan fwyty Castell Deudraeth olygfeydd dros yr ardd gaerog Fictoraidd. Mae diwyg mewnol y Castell wedi ei seilio ar ddefnyddiau naturiol lleol megis derw a llechi, gyda gwres dan y llawr drwyddo draw. Ar waliau’r llofftydd fe welwch luniau gan artistiaid megis Syr Kyffin Williams RA, William Selwyn, Fred Uhlman, Sarah Nechamkin, Susan Williams-Ellis a Menna Angharad yn ogystal â phrintiau gan Marc Chagall o gasgliad preifat Susan Williams-Ellis. Cyfeiriodd Clough at y Castell fel "yr adeilad unigol mwyaf trawiadol ar ystad Portmeirion". I gadw llety, archebwch trwy’r wefan hon i fanteisio ar y prisiau gorau sydd ar gael.
Llofft Ddwbl Castell
Mae llofftydd dwbl Castell Deudraeth yn eang gyda gwelyau mawr, tanau nwy yn y grât, gwres o dan y llawr, set deledu sgrin lydan a DVD. Mae pob llofft â lle i wneud te a choffi gydag oergell a sinc. Mae WiFi ar gael ym mhob ystafell.
Bydd gwesteion yn cael mynediad am ddim i bentref a gerddi Portmeirion a chael defnyddio'r pwll nofio (Ebrill -Medi). Mae cludiant ar gael o'i drefnu ymlaen llaw o'r gorsafoedd trenau a bysiau lleol. Ceir bws wenol rhag ac am ddim rhwng Castell Deudraeth a Gwesty Portmeirion.
Gwarantir y pris gorau am lety trwy'r wefan hon.
Llofft Fawr Castell
Mae llofftydd mawr Castell Deudraeth yn fwy na'r llofftydd dwbl safonol ac mae ynddynt le eistedd hefyd. Mae ynddynt welyau mawr, tanau nwy yn y grât, gwres o dan y llawr, set deledu sgrin lydan a DVD. Mae pob llofft â lle i wneud te a choffi gydag oergell a sinc. Mae WiFi ar gael ym mhob ystafell.
Bydd gwesteion yn cael mynediad am ddim i bentref a gerddi Portmeirion a chael defnyddio'r pwll nofio (Ebrill - Medi). Mae cludiant ar gael o'i drefnu ymlaen llaw o'r gorsafoedd trenau a bysiau lleol. Ceir bws wenol rhag ac am ddim rhwng Castell Deudraeth a Gwesty Portmeirion.
Gwarantir y pris gorau am lety trwy'r wefan hon.
Castle Penthouse
Mae Pen-y-Twr ar ben to Castell Deudraeth gyda mynediad i fyny grisiau preifat o'r ail lawr a cheir yma lofft ac ystafell eistedd, ystafell ymolchi a theras tu allan (gyda golygfeydd cyfyngedig).
Mae Pen-y-Twr yn cynnwys gwely mawr, tan nwy, gwres o dan y llawr, set deledu sgrin lydan a DVD, cwpwrdd te a choffi gydag oergell a sinc. Mae WiFi ar gael.
Bydd gwesteion yn cael mynediad am ddim i bentref a gerddi Portmeirion a chael defnyddio'r pwll nofio (Ebrill - Medi). Mae cludiant ar gael o'i drefnu ymlaen llaw o'r gorsafoedd trenau a bysiau lleol. Ceir bws wenol rhag ac am ddim rhwng Castell Deudraeth a Gwesty Portmeirion.
Gwarantir y pris gorau am lety trwy'r wefan hon.
Swît Castell
Mae pob swît yn y Castell yn cynnwys llofft gydag ystafell ymolchi a lolfa gyda chwpwrdd te a choffi gyda sinc ac oergell.
Mae pob swît yn cynnwys gwely mawr, tân nwy yn y grât, gwres o dan y llawr, set deledu sgrin lydan a DVD, lle i wneud te a choffi gydag oergell a sinc a WiFi ar gael ym mhob ystafell. Gellir trefnu gwelyau plygu a gwelyau babanod ar gais.
Bydd gwesteion yn cael mynediad am ddim i bentref a gerddi Portmeirion a chael defnyddio'r pwll nofio (Ebrill- Medi). Mae cludiant ar gael o'i drefnu ymlaen llaw o'r gorsafoedd trenau a bysiau lleol. Mae lle parcio neilltuol ar gael i westeion. Ceir bws wenol rhag ac am ddim rhwng Castell Deudraeth a Gwesty Portmeirion.
Gwarantir y pris gorau am lety trwy'r wefan hon.