AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
CANLLAWIAU  HYGYRCHEDD

CANLLAWIAU HYGYRCHEDD

HYGYRCHEDD

 

 

PARCIO

Mae gennym faes parcio bathodyn glas yn agos at y brif fynedfa. Dangoswch eich Bathodyn Glas dilys yn ffenestr eich cerbyd.

MYNEDIAD I'R PENTREF

Parciwch a gwnewch eich ffordd tuag at y tolldy a gwnewch eich hun yn hysbys i aelod o staff, nid oes angen ichi ymuno â’r prif griw os ydych yn dod o gyfeiriad y maes parcio bathodyn glas.

Dewch â’ch prawf gyda chi ar gyfer mynediad am ddim - llun clir o'r ddwy ochr eich bathodyn glas, neu gopi o'ch llythyr PIP, DWP gyda chi.

MYNEDIAD

Mae pob prif ardal o Bentref Portmeirion yn hygyrch i gadeiriau olwyn neu sgwteri. 

Mae yna rai bryniau serth a llwybrau anwastad. Cyfeiriwch at ein Cynllun Mynediad sydd ar waelod y dudalen hon.

Ni chaniateir ceir ymwelwyr dydd tu mewn i'r pentref, rhaid gadael pob car yn y meysydd parcio perthnasol (prif faes parcio neu maes parcio bathodyn glas)

Rhaid i ymweliadau fod yn hunan dywys gan nad ydym yn cynnig teithiau bygi na chymorth.

Mae gennym nifer o gadeiriau olwyn ar gael i'w benthyg, a mae modd trefnu hynny ar y tollborth neu drwy ffonio 01766 772 409 neu gofynnwch i aelod o staff sydd ar y tollborth wrth i chi gyrraedd  - gallant eich cynorthwyo.

GWELEDOL

Mae gan ffenestri a drysau gwydr farciau cyferbyniad ac mae grisiau gyda marciau gwelededd uchel. Mae prif arwyddion gwybodaeth mewn print bras, ac rydym yn cynnig sawl seinwedd o gwmpas y pentref yn ogystal ân 'app' newydd lle y gellir ei lawrlwytho unai cyn ichi gyrraedd, neu tra yr ydych yma.

Mae goleuadau isel mewn rhai mannau o'r lleoliad. Mae llwybrau troed anwastad o amgylch y Pentref, ac rydym yn annog pob ymwelydd i gymeryd gofal wrth fynd o gwmpas yr ardaloedd hyn.

MYNEDIAD

Mae gennym bolisi tocynnau am ddim ar gyfer cynorthwywyr personol a gofalwyr sy'n darparu Bathodyn Glas neu lythyr awdurdod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (PIP). Dewisiwch yr opsiwn gofalwyr ar ein tocynnau ar-lein. Bydd angen tystiolaeth wrth ddod mewn i'r pentref ar gyfer y tocyn rhad ac am ddim hwn. Os na chyflwynir prawf bydd angen angen talu pris llawn.

CŴN TYWYS A CHYMORTH

Gofynnwn yn garedig os ydych yn ymweld â Phortmeirion gyda Chi Tywys ei fod yn gwisgo cot neu ar dennyn. Dewch â'ch cerdyn cofrestru neu Lyfr Adnabod AD (UK) gyda chi os gwelwch yn dda gan y byddwn yn gofyn am y manylion hyn wrth ichi ddod i mewn.

CWESTIYNAU PELLACH

Os oes gennych unrhyw ymholiad pellach ynglŷn â mynediad i'r pentref, peidiwch ag oedi i ffonio'r Ganolfan Groeso ar 01766 772 409 ac fe fyddwn yn hapus i'ch helpu ac ateb unrhyw gwestiynau.

 

 

CYNLLUN HYGYRCHEDD



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more