AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Castell Deudraeth

Castell Deudraeth

Bwyty, Lolfa a Bar

 


 

Plasdy gothig a godwyd yn y cyfnod Fictoraidd gan Dafydd Williams, aelod seneddol Rhyddfrydol cyntaf Meirionnydd, ydi Castell Deudraeth.  Cafodd y Castell ei adfer a'i uwchraddio'n westy a bwyty yn 2001,  gyda'r holl nodweddion hanesyddol wedi eu diogelu. Dodrefnwyd y Castell â deunyddiau lleol gan gynnwys derw a llechi Cymreig. Mae Castell Deudraeth yn cynnig bwydlen arddull brasserie sy'n seiliedig ar y gorau o gynhwysion lleol. 

Mae'r Bwyty'n wynebu'r ardd Fictoraidd ar y naill ochr a'r Traeth Bach a mynyddoedd Meirionnydd ar y llall. 

Mae cinio dau gwrs ar gael gan Castell Deudraeth o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae cinio dau gwrs a archebir ymlaen llaw yn cynnwys tocyn mynediad am ddim i'r pentref ar ôl cinio. 

CINIO SUL
 

Mae Castell Deudraeth yn cynnig cinio Sul rhwng 12.30 a 2.30. Bydd cinio Sul a archebir ymlaen llaw yn cynnwys tocyn mynediad am ddim i bentref Portmeirion ar ôl cinio .

SWPER
 

Gyda'r nos, bydd Castell Deudraeth yn cynnig bwydlen a la carte rhwng 6pm a 9.00pm. Mae gofyn cadw bwrdd ymlaen llaw.

Os hoffech holi am gadw bwrdd ffoniwch 01766 772400 neu ebostio castell@portmeirion.cymru 

Bwyty Castell Deudraeth

Bwyty Castell Deudraeth

Y Lolfa a'r Bar

Y Lolfa a'r Bar



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more