AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Gerddi Portmeirion

Gerddi Portmeirion

Anturiwch i'r Gwyllt i grwydro dros 70 erw o goetiroedd egsotig hefo 20 milltir o lwybrau, llynnoedd dirgel, temlau a golygfeydd ysblennydd.

Darganfyddwch y tirlun naturiol trawiadol o amgylch Portmeirion. Mae'r goedwig isdeitropigol ym Mhortmeirion, a elwir yn enwog fel Y Gwyllt (Wildwood in Welsh) yn cynnwys rhai o goed mwyaf Prydain, gerddi cyfrinachol, castell diffaith a blodau prin. Archwiliwch y 70 erw o goetiroedd egsotig gyda 19 milltir o lwybrau sy'n torri trwy goedwigoedd, mannau cyfrinachol a gorchuddion arfordirol.

Ewch am dro i ddarganfod y Llyn Tsieineaidd gyda'i lilïau mawr a'i bagoda aur. Chwliwch am Fynwent y cŵn a dilyn llwybrau'r Ceunant Clud i'r Llwyn Dyrys draw am Ardd yr Ysbrydion.

O'r Pasg tan ddiwedd Hydref gallwch fwynhau taith am ddim ar Drên y Gwyllt i'r ardd ddwyreiniol i weld y deml aur uwch ben y llyn Tseineaidd. Gallwch adael y trên i ddilyn unrhyw un o'r llwybrau sy'n gwau trwy'r coed i archwilio'r goedwig sy'n ymestyn draw am drwyn y penrhyn.

Mae llawer o'r rhywogaethau anghyffredin a welir yma yn deillio o'r cyfnod cyn i Clough Williams-Ellis brynu'r safle. Yn y cyfnod Fictoraidd roedd pobl fel Henry Seymour Westmacott a Syr Williams Fothergill Cook wedi bod wrthi'n plannu a thirlunio yma gan gychwyn y casgliad o binwydd, magnoliau, cameliau a rhododendronau. 

Erbyn troead yr ugeinfed ganrif roedd Caton Haig yn gyfrifol am y Gwyllt. Roedd yn awdurdod ar goed blodau'r Himalaya lle bu droeon yn casglu hadau ar gyfer y casgliad enwog o goed rhododendron a welir yma. 

Ymhlith y 70 o fathau o rododendronau ceir rhododendron Brenin y Gwyllt gyda blodeua coch hardd. Ceir hefyd magnolia campbellii godidog gyda blodau pinc enfawr a choed o'r cynfyd o'r enw ginkgo bilobas. 

Y tu cefn i Gastell Deudraeth mae gardd Fictoraidd wedi ei hadfer yn ofalus, gyda lawntiau, gwelyau blodau a choed egsotig. 

** Oherwydd rheoliadau pellhau cymdeithasol, mae ein taith trên tir wedi'i thynnu'n ôl o'r gwasanaeth hyd y gellir rhagweld. **



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more