AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Siop Y Prisoner

Siop Y Prisoner

Tan Tro Nesa

Mae Portmeirion, cartref eiconig y rhaglen deledu gwlt o’r 60au, hefyd yn gartref i’r unig Siop Prisoner yn y byd.

Mi fyddwch yn adnabod Siop Anrhegion The Prisoner fel Tŷ Number Six, sydd bellach wedi’i droi’n siop â’i llond o ryfeddodau Prisoner o bob math.

Yma, fe ddowch o hyd i bob math o nwyddau Prisoner swyddogol gyda’r logo peni-ffardding enwog. Mae’r siop anrhegion yn gwerthu nwyddau Prisoner o bob math, yn cynnwys bathodynnau Rhif 6 a’r blaser du eiconig a wisgodd Patrick McGoohan. Gallwch brynu mapiau Prisoner, tuniau Village Foods, y balŵn Rover eiconig a llawer mwy yn y siop ac arlein.

Os ydych chi’n gwirioni ar Y Prisoner, mi fyddwch ar ben eich digon yn y siop!

(Mae'r Siop ar gau ar hyn o bryd, ac yn ail agor wythnos 30ain o Ionawr 2023).



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more