AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Sba Môr-forwyn Portmeirion

Sba Môr-forwyn Portmeirion

Ein Triniaethau

Dewisiwch un o'r pecynnau triniaeth 50 munud

Sba Môr-forwyn – Gadewch i’r straen a’r poenau ymdoddi a diflannu gyda’n triniaeth tylino wedi’i deilwra. Gan ddefnyddio gwahanol ddulliau i’ch helpu i ddadweindio, bydd ein therapydd yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n eich poeni chi. Am ddefod gwirioneddol bersonol, gallwch ddewis tri o blith y canlynol:

• Cefn, gwddf ac ysgwyddau

• Pen

• Traed

• Coesau

• Dwylo a Breichiau

• Wyneb 

Sba Ymlaciol – Profwch y siwrne ymlacio ddelfrydol gyda’n defod corff cyfan, yn cyfuno technegau tylino tyner ac ysgogol i leddfu’ch poenau. Mae’n cynnwys y dewis o frwsio’r corff cyfan gyda dewis ychwanegol o gael tylino’r pen, yr wyneb, neu’r traed.

Sba Baban – Cyfle i leddfu straen a thensiwn gyda sesiwn tylino corff cyfan yn ystod beichiogrwydd i’ch helpu i deimlo wedi’ch maethu a’ch adfywio wrth baratoi am eich siwrne **yn dibynnu ar argaeledd, ac ar ôl y tri mis cyntaf

Sba Ddyrchafol - Profwch gyfuniad adfywiol sgwrio ysgafn i ddiblisgo’r cefn ac wedyn driniaeth bersonoledig i dylino’r cefn, gwddf ac ysgwyddau i godi’r ysbryd ac adfywio’r enaid.

Sba Adfywio – Adfywio cylchrediad eich gwaed, a phorthi croen hanner isaf eich coesau a’ch traed. Mae’n cynnwys sgrwb a masg, wedi’i ddilyn gan driniaeth tylino i ymlacio hanner isaf y coesau a’r traed. Dewiswch naill ai driniaeth tylino’r pen neu’r dwylo a breichiau tra bydd y masg yn cael ei roi arnoch – y trît delfrydol ar gyfer coesau a thraed blinedig. 

Sba Lonyddol - Ymollyngwch i’r driniaeth hon o dylino gyda cherrig cynnes esmwyth ar hyd cefn y corff i liniaru tensiynau’r cyhyrau i’ch adfywio a’ch bywiogi.

Sba Adfywiol - Ymlaciwch gyda’n cyfuniad rhagnorol o dylino'r cefn a thrin wyneb i fwynhau gweddnewidiad llesol ac adfywiol cwbl haeddiannol.

Sba Ddisglair - Adfywiwch eich croen gyda phrofiad wyneb moethus wedi'i addasu’n benodol ichi a gynllunwyd i adfer llewyrch eich croen.

Sba Dadwenwyno’r Corff – Adfywiwch eich croen gyda’n triniaeth lapio’r corff â gwymon organig, wedi’i gyfuno â thylino’r pen i’ch helpu i deimlo’n ddisglair. 

Sba Puro – Triniaeth i fywiogi’r croen gyda’n sgrwb gwymon codog ar gyfer y corff cyfan, wedi’i gyfuno â thriniaeth tylino adfywiol i’r cefn – trît o’r radd flaenaf. 

                                            Pob triniaeth yn gost o £75

                                                AMSEROEDD AGOR

                                               MAWRTH - SADWRN

                                      10:00 - 17:00 (apwyntiad olaf 15:45

                          I drefnu eich triniaeth ffoniwch 01766 770 000 //                   sbamorforwyn@portmeirion.cymru

                     Ar ôl 5yp: Drwy Dderbynfa Gwesty Portmeirion a Chastell Deudraeth

 

                                                  POLISI GOHIRIO 

Bydd angen 24awr o rybydd arnom cyn i chi ohirio eich triniaeth. Yn dilyn hynny codir 100% o gost y driniaeth. Rydym yn gwerthfawrogi eich busnes a gofynnwn yn garedig i chi barchu ein rheoliadau ac amserlen y sba.

 

 

 

 



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more