Bwyty Gwesty Portmeirion a'r Teras
Bydd Bwyty Art Deco Gwesty Portmeirion ar agor i westeion preswyl yn unig ar gyfer brecwast a swper yn ystod y cyfnod presennol oherwydd lleihau nifer y byrddau a'r angen i sicrhau pellter cymdeithasol. Gellir cadw bwrdd ar gyfer Cinio Sul (ar gael rhwng un o’r gloch a hanner awr wedi dau) ar 01766 772440 neu 770000. £30 yw Cinio Sul am dri chwrs gan gynnwys mynediad am ddim i bentref Portmeirion.
Ar dywydd braf gweinir ar y Teras, ac ni ellir cadw bwrdd oherwydd anwadalwch y tywydd. Ni cheir mynediad am ddim i'r pentref gyda chinio ar y Teras.
Gwaetha'r modd mae pob bwrdd Te Pnawn wedi ei werthu ar gyfer mis Awst. Gellir cadw lle ym mis Medi ar gyfer Te Prynhawn yn lolfeydd y Gwesty trwy alw 01766 772440 neu 770000. Fe’i gweinir rhwng 2 o’r golch a 4 ac mae’n £25 y pen gan gynnwys mynediad am ddim i bentref Portmeirion os archebir ymlaen llaw.