AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
SWYDDI AR GAEL

SWYDDI AR GAEL

Gyrfau Portmeirion

SWYDDI PORTMEIRION 

Mae nifer o swyddi ar gael ym Mhentref Mhortmeirion, swyddi llawn amser, rhan amser, tymhorol ac achlysurol, ymunwch â ni! Rydym angen y canlynol –

 


Cynorthwywyr Bwyty/Bar Gwesty Portmeirion a Castell Deudraeth

Swyddi ar gael yng Ngwesty Portmeirion a Chastell Deudraeth. Gan weithio ar sail rota mae oriau at ddant pawb.


IS-GOGYDD GWESTY PORTMEIRION

Rydym yn chwilio am Is-Gogydd profiadol i ymuno gyda'r tim yng Ngwesty Portmeirion, dan arweiniad y Prif Gogydd a'r Prif Gogydd Weithredol. Profiad o weithio mewn gegin safonol yn hanfodol. Cytundeb parhaol, hyd at 50 awr yr wythnos, unrhyw 4 diwrnod allan o 7. Cyflog cystadleuol i'r ymgeisydd llwyddiannus.


Rheolwr Manwerthu

Lleolir Siopau Portmeirion Cyf ym mhentref fyd enwog Portmeirion, gyda siopau hefyd yn nhref cyfagos Porthmadog. Mae'r ystod eang o siopau i gyd yn gwerthu amrediad o wahanol anrhegion, llyfrau, manion moethus i'r cartref, tegannau a mwy.

Rydym nawr yn recriwtio ar gyfer RHEOLWR MANWERTHU gyda angerdd am fanwerthu, gofal cwsmer a datblygu staff, i redeg gweithrediadau dydd i ddydd ein siop.

Swydd llawn amser, barhaol. 40 awr yr wythnos. Mae sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Cyflog yn ddibynnol ar brofiad.

 


CYNORTHWYWYR CAFFI

Rydym angen Cynorthwywyr Caffi i weithio yn unrhyw un o gaffis Pentref Portmeirion, yn cynnwys Caffi Neuadd y Dref, Caffi Glas, Caffi'r Angel, Caffi Rhif 6 a Caffi'r Sgwar. Oriau agor y caffis yw 9.30yb tan 5.30yh. Swyddi tymhorol hefyd ar gael dros gyfnod y Gwanwyn a'r Haf.

Dyletswyddau yn cynnwys:

Cymryd archebion, danfon bwyd at y byrddau, clirio a golchi llestri a derbyn taliadau.


Cynorthwy-ydd Siop

Mae Siopau Portmeirion yn gwahodd ceisiadau am swydd Cynorthwyydd Siop ym Mhentref Portmeirion. Nid yw profiad blaenorol yn angenrheidiol a rhoddir hyfforddiant llawn. Gwaith yn ystod y dydd 9:30yb – 5:30yh, ar hyd y flwyddyn. Mae hwn yn swydd llawn amser ac mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu drosodd oherwydd gwerthiant alcohol. 


goruchwyliwr bwyty

Mae Gwesty Portmeirion a Chastell Deudraeth angen Goruchwyliwr Bwyty i ymuno gyda’r tîm presennol. Mae hwn yn gyfle gwych i hyfforddi a datblygu gyrfa lwyddiannus yn y maes lletygarwch gydag un o brif westai Cymru. Mae’r gallu i weithio oriau hyblyg (gan gynnwys min nos a phenwythnosau) gydag sgiliau rhagorol mewn gwasanaeth cwsmer ac arwain tîm yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma. Bydd profiad o weithio mewn bwyty neu bar prysur hefyd yn fantais.

Mae'r rhain yn swyddi parhaol, llawn amser ond fe roddir ystyriaeth i geisiadau am waith rhan-amser gan ymgeisydd gyda’r profiad perthnasol.


cynorthwyydd depo a danfoniadau

Gwahoddir ceisiadau am swydd yn y Depot Danfoniadau Pentref Portmeirion i dderbyn a danfon nwyddau o amgylch y safle. Swydd dymhorol tan tua 30.09.24, i gychwyn mor fuan â phosib. Bydd angen trwydded yrru llawn ar gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer y swydd hon.

Wythnos gwaith arferol - dydd Mawrth i ddydd Sadwrn. Bydd ceisiadau am waith llawn neu ran-amser yn cael eu hystyried, ond bydd rhaid i ymgeiswyr fod ar gael i ddechrau am 7:00yb.


AM WYBODAETH BELLACH CYSYLLTWCH Â'R ADRAN ADNODDAU dynol fel isod.

Cysylltwch gyda Ellen neu Nia o’r Adran Adnoddau Dynol ar 01766 772369 am ragor o fanylion neu ebostiwch eich CV draw i swyddi@portmeirion.cymru



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more